How we put Net Zero into practice | Sut rydyn ni’n rhoi Sero Net ar waith

How we put Net Zero into practice

Climate Cymru and the Welsh Government warmly invite you to join an open and friendly webinar exploring how Wales is turning its Net Zero ambitions into real, everyday action and what this means for people and communities across the country.

This session will look at why the next Net Zero Plan matters, not just for tackling climate change, but for building a fairer, healthier and more resilient future for all of us.

We’ll cover:

  1. The Welsh Government’s priorities for climate action.
  2. The key steps and ambitions for the next 5 years and beyond.
  3. What moving to a low-carbon Wales could look like in everyday life, for communities, jobs, wellbeing and future generations.
  4. How we can listen to and work alongside communities across Wales to shape solutions that reflect different experiences, needs and priorities.
  5. How voices from across Wales,including local communities, young people, businesses and underrepresented groups, are helping shape the way forward.

We’ll also spend time thinking about how we talk about climate change in ways that truly connect with people:

  1. Making messages feel clear, relevant and grounded in everyday life.
  2. Finding better ways to reach and engage a wide range of communities.
  3. Sharing hopeful, practical stories that show change is possible and something we can all be part of.

This is a chance to come together, share ideas and be part of a positive conversation about Wales’ future, and the role we can all play in it.

We look forward to welcoming you.

-----------------------------------------

Wythnos Werdd Fawr

Dydd Mawrth 9 Mehefin – 6pm

Sut rydyn ni’n rhoi Sero Net ar waith

Mae Climate Cymru a Llywodraeth Cymru yn eich gwahodd yn gynnes i ymuno â gweminar agored a chyfeillgar i drafod sut mae Cymru’n troi ei huchelgeisiau Sero Net yn weithredu go iawn bob dydd – a beth mae hyn yn ei olygu i bobl a chymunedau ledled y wlad.

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar pam mae’r Cynllun Sero Net nesaf mor bwysig, nid yn unig ar gyfer mynd i’r afael â’r newid hinsawdd, ond ar gyfer adeiladu dyfodol tecach, iachach a mwy gwydn i ni i gyd.

Byddwn yn trafod:

  1. Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu ar y newid hinsawdd.
  2. Y prif gamau a’r uchelgeisiau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf a thu hwnt.
  3. Sut y gall symud tuag at Gymru carbon isel edrych yn ymarferol mewn bywyd bob dydd – i gymunedau, swyddi, llesiant a chenedlaethau’r dyfodol.
  4. Sut gallwn wrando ar gymunedau ledled Cymru a gweithio gyda nhw i lunio atebion sy’n adlewyrchu profiadau, anghenion a blaenoriaethau gwahanol.
  5. Sut mae lleisiau o bob cwr o Gymru – gan gynnwys cymunedau lleol, pobl ifanc, busnesau a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – yn helpu i lywio’r ffordd ymlaen.

Byddwn hefyd yn treulio amser yn ystyried sut rydyn ni’n siarad am y newid hinsawdd mewn ffyrdd sy’n cysylltu’n well â phobl:

  1. Gwneud negeseuon yn glir, yn berthnasol ac yn seiliedig ar fywyd bob dydd.
  2. Dod o hyd i ffyrdd gwell o gyrraedd ac ymgysylltu ag ystod eang o gymunedau.
  3. Rhannu straeon cadarnhaol ac ymarferol sy’n dangos bod newid yn bosibl ac yn rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn rhan ohono.

Mae hwn yn gyfle i ddod at ein gilydd, rhannu syniadau a bod yn rhan o sgwrs gadarnhaol am ddyfodol Cymru – a’r rôl y gall pob un ohonom ei chwarae ynddo.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.

 


This event takes place online

Event summary

Email for tickets